Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 18
Gorffennaf 2017
Amser y
cyfarfod: 13.30
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(0 munud)
NNDM6373 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i), 12.22(i) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM6374 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 18 Gorffennaf 2017.
(60 munud)
NNDM6374
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.Yn nodi Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) Llywodraeth y DU.
2. Yn credu:
a) ei fod yn gwbl annerbyniol ar ei ffurf bresennol; a
b) bod rhaid cymryd pob cam angenrheidiol i ddiogelu buddiannau Cymru a sefyllfa gyfansoddiadol a phwerau’r Cynulliad Cenedlaethol, gan gynnwys cyhoeddi bil parhad.
‘Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)’
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn credu nad yw Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn unrhyw fygythiad i'r setliad datganoli presennol.
[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod bod seneddau a chynulliadau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn rhan o setliad democrataidd modern y Deyrnas Unedig, ac y dylid eu cynnwys yn llawn yng ngwneuthuriad y Deyrnas Unedig sy'n ffynnu yn y dyfodol ar ôl-Brexit.
(45 munud)
(45 munud)
(45 munud)
(60 munud)
NDM6367 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn
cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a
Hawliau
Cysylltiedig (Cymru).
Gosodwyd Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 13 Mawrth 2017.
Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar Fil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 7 Gorffennaf 2017.
Dogfennau ategol
Adroddiad
y Pwyllgor Cyllid
Adroddiad y Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
(5 munud)
NDM6368
Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw
ddarpariaethau sy'n deillio o Fil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau
Cysylltiedig (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r
math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o
ganlyniad i'r Bil.
(30 munud)
NDM6353 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017-18 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth 27 Mehefin 2017.
Troednodyn:
Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:
(i) y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;
(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
(iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig; a
(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).
Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:
- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.
Dogfen ategol:
Adroddiad y Pwyllgor Cyllid, 14 Gorffennaf 2017
(15 munud)
NDM6372 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo Bil yr Undebau Llafur (Cymru)
'Bil yr Undebau Llafur (Cymru)'
Dogfennau Ategol
Bil
yr Undebau Llafur (Cymru)
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 19 Gorffennaf 2017